R -
Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Gofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
1. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol y strategaeth i'r rhai sy'n dioddef o gyflwr Asperger? OAQ(4)0531(HSS)W
2. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cymorth a ddarperir i bobl ar y sbectrwm awtistig yng Nghymru? OAQ(4)0520(HSS)
3. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ba gynnydd a wnaed mewn trefniadau iechyd a gofal cymdeithasol integredig dros y flwyddyn ddiwethaf? OAQ(4)0530(HSS)W
4. Lynne Neagle (Torfaen):Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau bod anghenion maethol pobl hŷn sy'n byw mewn gofal preswyl yng Nghymru yn cael eu bodloni? OAQ(4)0523(HSS)
5. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru sydd â phroblemau iechyd meddwl? OAQ(4)0532(HSS)W
6. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu darpariaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau ymataliaeth yng Nghymru? OAQ(4)0521(HSS)
7. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol gofal heb ei drefnu yng Nghymru? OAQ(4)0516(HSS)
8. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ariannu byrddau iechyd lleol? OAQ(4)0526(HSS)
9. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad i driniaethau canser yng Nghanol De Cymru? OAQ(4)0528(HSS)
10. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau iechyd mewn ardaloedd gwledig? OAQ(4)0515(HSS)
11. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau meddygon teulu yng ngogledd Cymru? OAQ(4)0519(HSS)W
12. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddefnyddio amlfferylliaeth yn GIG Cymru? OAQ(4)0517(HSS)
13. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am nifer y gwelyau ysbyty sydd ar gael ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OAQ(4)0529(HSS)
14. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddefnyddio asesiadau effaith ar iechyd yng Nghymru? OAQ(4)0525(HSS)
15. Christine Chapman (Cwm Cynon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gamddefnyddio alcohol yng Nghymru? OAQ(4)0518(HSS)
Gofyn i'r Cwnsler Cyffredinol
Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau.
Gofyn i Gomisiwn y Cynulliad
Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau.